Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
29 Ionawr 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6078
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 3 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.21
Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 a 5 gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
15.09
Cododd Mandy Jones bwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9(iv) a 13.9(v) ynghylch iaith a ddefnyddiwyd yn ystod trafodion yr wythnos ddiwethaf. Cytunodd y Llywydd i adolygu’r cofnod a dychwelyd at y mater os oes angen.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws?
Leanne Wood (Rhondda): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ateb y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y Rhondda a thu hwnt os caiff gwasanaethau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eu gostwng?
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Gwnaeth Lynne Neagle ddatganiad yn dathlu llwyddiannau enillwyr y Gwobr Tiwtoriaid y Sefydliad Dysgu a Gwaith; Ysbrydoli! ar 22 Ionawr 2020made a statement celebrating the achievements of the winners of the Learning and Work Institute’s Inspire! Tutor Awards on 22 January 2020
Gwnaeth Leanne Wood ddatganiad am lwyddiant Treorci yng nghystadleuaeth Stryd Fawr y Fwyddyn y DU
Gwnaeth Sian Gwenllian ddatganiad am enwebu Chwareli Llechi Gwynedd fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO
Dechreuodd yr eitem am 15.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7242 Elin Jones (Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, i’r canlynol:
a) Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad;
b) i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac i ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu sy'n ymwneud â’r cymhwysedd hwnnw, gan gynnwys ansawdd y ddeddfwriaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
7 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.54
NDM7261 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.55
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7241 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn cydnabod y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.
4. Yn cydnabod y manteision posibl i Gymru yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
a) llunio cytundebau masnach rydd newydd;
b) creu system fewnfudo decach nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar y sail o ble y gallant ddod;
c) sefydlu dull newydd o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
7 |
28 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.
2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU.
4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
7 |
16 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 16.59
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7244 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.
2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.
4. Yn credu y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir dim ond:
a) os caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un parch â'r GIG, ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG;
b) os ceir buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau sy'n atal salwch;
c) os ceir gwelliannau i amodau gwaith a chynllunio'r gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a chadw staff y GIG a gofal cymdeithasol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
1 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod rhai o fyrddau iechyd Cymru yn gohirio recriwtio oherwydd pwysau ariannol sy'n gwaethygu perfformiad gwael a phwysau ar staff rheng flaen.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
35 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:
a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;
c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
23 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol.
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
8 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7244 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.
2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.
4. Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:
a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;
c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
5. Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7243 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i Gymru.
2. Yn croesawu'r ffaith y bydd y Deyrnas Unedig, ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd yr wythnos hon.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau'r manteision gorau i Gymru o ran pysgodfeydd Cymru wrth i ni gwblhau'r broses Brexit.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
0 |
43 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
22 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y byddwn, ar ôl gadael yr UE, yn gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol, gan gymryd rheolaeth yn ôl dros ein dyfroedd ym mis Rhagfyr 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
9 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i: cynyddu'r cyllid ar gyfer pysgodfeydd ledled gwledydd y DU drwy'r senedd bresennol, a chefnogi'r broses o adfywio ein cymunedau arfordirol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
8 |
28 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth bysgota newydd a fyddai'n seiliedig ar yr egwyddor o 'gynnyrch cynaliadwy mwyaf', ac a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
22 |
1 |
27 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig
fel y’i diwygiwyd:
NDM7243 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
3 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.55
Dechreuodd yr eitem am 19.02
NDM7245 Rhianon Passmore (Islwyn)
Cymru a'r economi ddiwylliannol: manteision economaidd y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau mewn Cymru greadigol.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.24
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 4 Chwefror 2020